Bydoedd Minecraft Education bellach ar gael yn Gymraeg trwy gydweithrediad rhwng Microsoft UK ac Ystâd y Goron
Mae bydoedd Minecraft Education newydd bellach ar gael i bobl ifanc Cymraeg eu hiaith mewn menter sydd wedi cael ei chroesawu gan addysgwyr, disgyblion a rhieni.
Mae’r ddau fyd, a oedd yn gydweithrediad rhwng Microsoft UK ac Ystâd y Goron ac sydd bellach ar gael yn y Gymraeg, yn gwneud bydoedd cyffrous Minecraft yn hygyrch i fwy o bobl ledled Cymru.
Fel rhan o ffocws Ystâd y Goron ar ddatblygu sgiliau i gefnogi’r trawsnewid ynni, gall myfyrwyr ledled Cymru brofi eu sgiliau gwyrdd a dysgu mwy am gynllunio ffermydd gwynt ar y môr a diogelu’r amgylchedd morol ym myd Minecraft Education, ‘Her Ynni Gwynt Ar y Môr’. Mewn ail fyd, gallant ddysgu am gadwraeth ac ecoleg.
Nod y bydoedd Minecraft newydd yw ysbrydoli myfyrwyr ysgolion cynradd ac uwchradd i ddeall newid hinsawdd a'r amgylchedd naturiol yn well, ac i ystyried gyrfaoedd mewn peirianneg, cynaliadwyedd a chadwraeth. Yn yr ‘Her Ynni Gwynt ar y Môr’, bydd myfyrwyr yn gweld a allant bweru pentref arfordirol trwy ddylunio ac adeiladu fferm wynt alltraeth.
Yn ddiweddar cyflwynodd Ystâd y Goron arddangosiad o’r byd Minecraft newydd i grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 8 yn Ysgol Bro Teifi, ysgol Gymraeg yng Ngheredigion. Roedd y wers yn galluogi disgyblion i fireinio eu sgiliau TG a dysgu mwy am wynt ar y môr a rôl bwysig y sector wrth yrru trawsnewidiad ynni’r DU.
Mae ynni adnewyddadwy yn ddiwydiant sy’n tyfu yng Nghymru. Mae cenhedlaeth newydd o ffermydd gwynt alltraeth arnofiol ar fin cael eu datblygu yn y Môr Celtaidd gyda chylch prydlesu gwely’r môr presennol Ystâd y Goron, gyda’r tyrbinau arnofiol newydd yn gallu cynhyrchu hyd at 4.5GW o drydan – digon i bweru mwy na phedair miliwn o gartrefi.
Yn ei Glasbrint Môr Celtaidd1 a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, tynnodd Ystâd y Goron sylw at waith ymchwil a oedd yn dangos y gallai hyd at £1.4bn a dros 5,000 o swyddi gael eu hychwanegu at economi’r DU drwy ddatblygu gwynt alltraeth arnofiol oddi ar arfordir de Cymru a de-orllewin Lloegr.
Mae’r ddau fyd newydd a grëwyd ar gyfer Minecraft Education ar gael yn Gymraeg a Saesneg, pob un â chynlluniau gwersi ategol a deunyddiau addysgu sy’n cyd-fynd â chwricwlwm ysgolion Cymru.
Mae sicrhau bod y Gymraeg yn berthnasol yn y byd digidol yn ganolog i nod Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac i gyflawni hyn mae galw am fwy o adnoddau digidol a rhyngweithiol yn y Gymraeg2.
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg:
“Rwy’n croesawu’r cydweithrediad cyffrous hwn gyda Microsoft. Mae mor bwysig bod myfyrwyr yn gallu defnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun digidol heb orfod gofyn na mynd allan o’u ffordd i wneud hynny.
“Mae’r sector ynni adnewyddadwy yn cynnig rhai o’r rhagolygon gorau ar gyfer dyfodol economaidd Cymru. Bydd yr adnodd arloesol hwn yn galluogi ein pobl ifanc i fynd i’r afael – yn Gymraeg ac yn Saesneg – â’r heriau a’r cyfleoedd y mae’r sector yn eu cyflwyno. Bydd hefyd yn eu cyflwyno, o oedran cynnar, i’r posibilrwydd o gael gyrfa mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru yn y dyfodol.”
Dywedodd Rebecca Williams, Cyfarwyddwr Cymru Ystâd y Goron:
“Dyma gyfle cyffrous i gydweithio â Microsoft UK a dod â chynnwys addysgol Cymraeg newydd i ysgolion drwy’r gêm sydd wedi gwerthu orau erioed. Mae’r bydoedd Minecraft hyn yn rhoi ffordd hwyliog i fyfyrwyr ac athrawon archwilio’r cyfleoedd a’r heriau sy’n gysylltiedig â thrawsnewid ein hegni wrth warchod ac adfer ein hamgylchedd naturiol, trwy’r iaith sydd fwyaf perthnasol iddyn nhw.
“Mae Ystâd y Goron wedi ymrwymo i greu partneriaethau a dod â phobl at ei gilydd i gael effaith gadarnhaol. Gyda rownd brydlesu ar gyfer ynni gwynt alltraeth yn y Môr Celtaidd eisoes ar y gweill, rydym yn gobeithio y bydd y fenter hon yn helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau a’u hangerdd a’u cyflwyno i rai o’r cyfleoedd am yrfaoedd gwyrdd sydd eu hangen i gyflawni ein uchelgeisiau ynni adnewyddadwy a sero net.”
Dywedodd Leah Slaymaker, Cydlynydd Cymhwysedd Digidol Ysgol Bro Teifi:
“Mae’n wych bod ein plant yn cael y cyfle i ddysgu am bynciau pwysig fel yr amgylchedd a newid hinsawdd trwy ddulliau digidol. Mae’r myfyrwyr yn mwynhau defnyddio Microsoft Minecraft Education yn fawr iawn – nid yn unig ei fod yn hwyl ac yn bleserus ond trwy’r gwahanol weithgareddau maen nhw’n dysgu ac yn datblygu nifer o sgiliau pwysig fel datrys problemau, cydweithio a chreadigedd. Mae’n fonws ychwanegol i allu datblygu gwybodaeth a sgiliau digidol trwy gyfrwng y Gymraeg.”